Amgaeaf ddau adroddiad a wnaed gan Angharad Wynne ar gyfer Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Celfyddydau, ond hyd y gwelwn ni, nid oes fawr ddim wedi digwydd o ganlyniad i’r rhain.

Mae yna deimlad cyffredinol yn y diwydiant cerdd fod yna ddiffyg strategaeth llwyr gan y Llywodraeth yn y maes, ac o ganlyniad mae cannoedd o gerddorion ifanc sy’n rhan o weithgarwch creadigol yn y byd roc a gwerin yn cael eu gadael heb y gefnogaeth y mae arnyn nhw ei angen. Un gymhariaeth sy’n hawdd iawn i’w wneud (ond sydd ddim yn cael ei amlygu gennym yn rhy aml rhag iddo gael ei weld fel ymgais i danseilio’r Cyngor Llyfrau) yw’r diffyg cefnogaeth i’r diwydiant cerdd ar linellau’r gefnogaeth i’r diwydiant cyhoeddi mewn print. Ond eto mae canran uwch o lawer o ieuenctid yn rhan o’r maes cerdd o’i gymharu a’r maes print. Ond yr un yw’r sefyllfa o safbwynt maint y gynulleidfa, a’r problemau sy’n deillio o hynny.

Wrth gwrs, rydw i yn siarad ar sail fy mhrofiad gyda chwmni Sain, ond credaf dy fod yn fy nabod yn ddigon da i wybod nad diddordeb ariannol personol sy’n fy ngyrru yn y drafodaeth hon. Wedi dweud hynny, mae cwmni Sain, fel pob cwmni a label arall yn y sector, yn wynebu argyfwng gwirioneddol oherwydd y chwyldro digidol, a’r modd y mae pobol bellach yn medru gwrando ar gerddoriaeth oddi ar y We, heb dalu, neu am daliad bychan. Ar un adeg, tua 15 mlynedd yn ol, roedd Sain yn cyflogi tua 40 o bobol; bellach, mae’r nifer yn llai na 20, ac yn debygol o leihau eto er mwyn ceisio cadw’r cwmni i fynd.

Ar hyd y blynyddoedd, mae Sain yn falch o fod wedi helpu’r diwydiant yng Nghymru i adeiladu ar seiliau cadarn sy’n rhoi cefnogaeth deg i artistiaid a chyfansoddwyr. Ni ddechreuodd y drefn o dalu breindal i gerddorion, ac o sefydlu trefn deg o gofrestru caneuon gyda’r cyrff cofrestru. Ers degawdau, buom yn trafod gyda’r cyrff hynny (PRS, MCPS  a PPL yn bennaf), yn ogystal a’r darlledwyr yng Nghymru, ar ran cerddorion Cymru, a buom yn flaengar wrth sefydlu Cynghrair Cerddorion a Chyhoeddwyr Cymru ac Eos, y corff casglu a sefydlwyd ar ran cyfansoddwyr Cymru (ac sydd wedi ychwanegu’n sylweddol at eu hincwm, er na fu’r Tribiwnlys yn gwbl lwyddiannus). Bob blwyddyn, y mae Sain (a Chyhoeddiadau Sain) yn dosbarthu cannoedd o filoedd o bunnoedd i artistiaid a chyfansoddwyr, arian sy’n deillio o werthiant CDau a darllediadau a pherfformiadau cyhoeddus. Ond mae’r incwm hwn yn lleihau’n gyflym oherwydd bygythiad y We, a’r achubiaeth bellach yw datblygu gwasanaeth ffrydio (“streaming”) tebyg i Spotify ar gyfer cerddoriaeth a gynhyrchir yng Nghymru, a dyna yw APTON, a fydd yn cael ei lawnsio y mis nesa. Un o gryfderau Apton yw y bydd yn gwasanaethu holl labeli Cymru (gydag ambell i eithriad yn unig), ac yn talu cyfran llawer iawn tecach i’r cerddorion (30 gwaith mwy na chyfradd Spotify). Unwaith eto, Sain sydd wedi arwain ar hyn.

Ond yr angen mwyaf yw arian cyhoeddus a fydd yn gefn i’r gweithgarwch gwych ac amrywiol sy’n digwydd yn y byd roc/pop/gwerin/jas yng Nghymru. O symleiddio’n fawr, mi fyddwn i’n dweud mai ym maes darparu a chynnal lleoliadau ac adnoddau ar gyfer perfformwyr, ac yn y maes trefnu a hyrwyddo y mae angen i’r gefnogaeth hon ganolbwyntio. Byddai cyllideb tebyg i gyllideb y Cyngor Llyfrau yn fwy na digon i wneud y gwaith hwn yn llwyddiannus iawn, ond byddai £250,000, dyweder, yn gychwyn da. A byddai Cynghrair Cerddorion a Chyhoeddwyr Cymru yn barod iawn i gynghori ar hyn.( Er nad yw’n cael cefnogaeth y Llywodraeth bellach, mae’r WMF (Sefydliad Cerdd Cymru) yn dal mewn bod, a byddai’raelodau hynny hefyd wrth gwrs yn barod iawn i helpu).

Mae Dafydd Meirion Roberts, Prif Weithredwr cwmni Sain , wedi bod yn flaenllaw mewn llawer o’r trafodaethau hyn, a dyma sut y mae’n crynhoi’r pwyntiau a wnaed i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Darlledu dan gadeiryddiaeth Bethan Jenkins AC:

-        Fod angen strategaeth glir ar gyfer datblygu y diwydiant cerdd yng Nghymru.

-        Ar ôl i’r MEU fyddsoddi £350k yn WOMEX 13, roedd yr ymateb yn wych, a’r potensial o ddatblygu cynllun allforio cerddoriaeth yn amlwg, ond wedyn y Llywodraeth yn stopio ariannu’r WMF (sef partner yn Cerdd Cymru:Music Wales a lwyddodd i ddenu Womex i Gaerdydd)

-        Does dim corff ar hyn o bryd yn cynrychioli’r diwydiant ers i’r Llywodraeth stopio ariannu’r WMF – mae vacuum enfawr, a dim byd dros dro gan y Llywodraeth – mae’r momentwm a grewyd gan Womex yng Nghaerdydd wedi ei golli (ac felly gwerth y buddsoddiad).

-        Mae angen asianateth ar gyfer allforio cerddoriaeth Cymru

-        Mae angen cynllun datblygu sylfaenol fel y ‘Young Promoters Network’ yn y cymoedd, ar draws Cymru i ddatblygu sgiliau a thalentau yn y diwydiant.

-        Pam nad oes cymorth i’r diwydiant recordio fel sydd i bob cyfrwng Cymraeg arall (Radio, Teledu, Print)?

-        Os ydi’r Llywodraeth yn sefydlu asiantaeth hyd braich, sef The Creative Wales Agency fel dwi’n dallt,  (gyda Dai Davies yn arwain!), yna mae angen sicrhau fod yna arbenigedd a chynrychiolwyr o’r diwydiant ar y panel, a rheini yn rhai cyfoes sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd.

-        Heb y strategaeth mae nifer o grwpiau (gan gynnwys, ee, 9Bach a Georgia Ruth) yn mynd at gwmniau yn Lloegr, ac felly mae’r ymelwa o’r Eiddo Deallusol hefyd yn cael ei golli I Gymru.

-        Beth ydi rôl y CCC yn hyn i gyd? Beth yw eu polisi o ran cefnogi gweithgareddau celfyddydol masnachol sy’n dod ag elw a budd i’r economi?

(O ran Apton,  ni chefais unrhyw ymateb gan Edwina na Natasha Hale ar ôl i ni anfon y strategaeth marchnata atynt, yn ôl eu cais.  Mae marchnata Apton ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol yn hollbwysig, a gall fod yn elfen bwysig iawn o ddatblygu’r diwydiant cerdd yng Nghymru, a bod yn wasanaeth gwerthfawr gwbl ryngwladol er budd cerddorion Cymru DMR)